Lleoliad y cyfarfod:
Siambr Hywel - Tŷ Hywel
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 8
Hydref 2025
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
(45 munud)
Bydd y Llywydd
yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd
i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 3.
Gweld y Cwestiynau
(45 munud)
Bydd y Llywydd
yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd
i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
Gweld y Cwestiynau
(20 munud)
I ofyn i
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a
Chynllunio
Luke
Fletcher (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y
mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch
effaith tariffau cynyddol yr Undeb Ewropeaidd ar ddiwydiant dur
Cymru?
I ofyn i
Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd
Cymru
Sian Gwenllian
(Arfon): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet
ddatganiad ar y penderfyniad i gau Pont y Borth dros
dro?
(5 munud)
Ni chyflwynwyd unrhyw Datganiadau 90 eiliad.
(5 munud)
NNDM9007 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Russell George (Annibynnol) yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Joel James (Ceidwadwyr Cymreig).
(5 munud)
NDM8997 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi y cafodd y Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru ei sefydlu ar 16 Mai 2023.
2. Yn nodi y gosodwyd adroddiad y Pwyllgor, ‘Adroddiad ar y bylchau a nodwyd ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill Cymru yn ystod pandemig covid-19 y dylid eu harchwilio ymhellach: Modiwl 1 Ymchwiliad Covid-19 y DU’, ar 25 Mawrth 2025.
3. Yn nodi y trafodwyd adroddiad y Pwyllgor, ‘Adroddiad ar y bylchau a nodwyd ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill Cymru yn ystod pandemig covid-19 y dylid eu harchwilio ymhellach: Modiwl 1 Ymchwiliad Covid-19 y DU’, ar 16 Gorffennaf 2025.
4. Yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, y dylai'r Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru ddod i ben.
(60 munud)
NDM8996 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Cyfoeth Naturiol Cymru: Gwaith craffu blynyddol 2024-25 a osodwyd ar 21 Mai 2025.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Hydref 2025. Ymatebodd Cyfoeth Naturiol Cymru ar 3 Gorffennaf 2025.
(60 munud)
NDM8995 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Senedd Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Cymorth tai i bobl sy’n agored i niwed', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mai 2025.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Hydref 2025.
(60 munud)
NDM8999 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu y bydd asesiad Llywodraeth Cymru o effaith economaidd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a gyhoeddwyd ar 30 Medi 2025 yn arwain, yn ôl amcangyfrifon, at:
a) 56,000 o dda byw Cymreig yn cael eu colli;
b) 1,163 o swyddi ar ffermydd Cymru yn cael eu colli; a
c) £76.3 miliwn o incwm busnes ffermydd yn cael ei golli.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy presennol a chyflwyno cynllun yn ei le sy'n gweithio i ffermwyr, gan roi diogeledd bwyd a chynhyrchiant yn ganolog iddo.
Asesiad effaith economaidd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y cydweithio a ddigwyddodd wrth ddatblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a chyfraniad sylweddol rhanddeiliaid.
2. Yn nodi cyhoeddi’r Cynllun ar 15 Gorffennaf 2025 a’r gwaith parhaus gyda rhanddeiliaid ar yr haenau Dewisol a Chydweithredol.
3. Yn croesawu cyhoeddi Achos Busnes llawn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy er mwyn bod yn agored a thryloyw.
4. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi dros £340 miliwn yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn 2026.
5. Yn annog ffermwyr i ystyried manylion y cynllun ei hun a defnyddio’r canllaw cyflym sydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Dileu pwynt 2 a'i roi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Bord Gron Gweinidogol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy i barhau i esblygu a diwygio'r cynllun er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy a hyfyw i'r sector amaethyddol yng Nghymru.
Gwelliant 3 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraethau Cymru a'r DU i weithio gyda'i gilydd i ddarparu setliad ariannol aml-flwyddyn i'r sector amaethyddol, ac i symud i ffwrdd o Farneteiddio'r gyllideb ffermio er mwyn darparu sefydlogrwydd economaidd i'r sector.
(30 munud)
NDM8992 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Rhwystro mynediad at addysg: y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) a pham bod rhaid ei ddiwygio.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 14 Hydref 2025